{"product_id":"meddwl-creadigol-mewn-ysgolion-ellen-spencer-9781785837067","title":"Meddwl Creadigol Mewn Ysgolion: Chwaraelyfr I Arweinwyr","description":"Mae'r llyfr yma wedi cael ei gyhoeddi i gydredeg efo canlyniadau profion cyntaf byd-eang PISA ar feddwl yn greadigol, y 'Creativity Collaboratives' sydd yn gweithredu yn Lloegr, a'r pwysigrwydd cynyddol ar feddwl creadigol yn fyd-eang. Mae \u003cem\u003eMeddwl Creadigol mewn Ysgolion\u003c\/em\u003e yn egluro sut gall arweinwyr ysgolion annog ei staff i sefydlu meddwl creadigol mewn pob agwedd o fywyd ysgol. Mae'n cynnig fframwaith i wneud hwn sy'n seiliedig ar y model Pump Arfer Creadigol a ddatblygwyd gan y \u003cem\u003eCentre for Real-World Learning. \u003c\/em\u003eMae'r fframwaith yn pwysleisio datblygu dysgwyr sy'n chwilfrydig, dyfalbarhaus, cydweithredol, disgybledig a dychmygus. Yn seiliedig ar ymchwil a dadansoddiadau o ysgolion ar draws y byd, gan gynnwys astudiaethau fanwl ar bumdeg ysgol yn Lloegr yn ddiweddar, mae \u003cem\u003eMeddwl Creadigol mewn Ysgolion\u003c\/em\u003e yn cynnig ystod eang o adnoddau hygyrch ac enghreifftiau ymarferol. Maent yn cefnogi arweinwyr i fyfyrio ar ei phrif amcanion, deall y newidiadau sydd angen ei wneud er mwyn sefydlu meddwl creadigol yn ei ysgolion, datblygu arweinwyr o fewn ei staff, hwyluso datblygiad eu hathrawon, cynllunio, addysgu ac asesu meddwl yn greadigol, a gweithio gyda phartneriaid allanol, wrth ddatblygu cymuned ddysgu broffesiynol bywiog.Ynghyd a gwefan sy'n cynnwys deunyddiau ac astudiaethau achos ychwanegol y gellir eu lawrlwytho, mae'r llyfr yn dod a chymuned o arweinwyr ac athrawon ledled y byd at ei gilydd i gysylltu a'i gilydd a rhannu eu profiadau er mwyn datblygu, lledaenu, ymestyn a gwerthuso meddwl creadigol o fewn ac ar draws ysgolion.Bydd \u003cem\u003eMeddwl Creadigol mewn Ysgolion\u003c\/em\u003e yn cefnogi cymuned o arweinwyr ac athrawon sy'n gweld meddwl creadigol fel pwrpas craidd o fewn addysg ac sydd a diddordeb mewn ei wneud yn flaenoriaeth yn eu hysgolion. Bydd yn annog disgyblion i ddatblygu eu creadigrwydd o fewn y dosbarth, gan ganiatau i genedlaethau'r dyfodol i ffynnu mewn byd sy'n fwyfwy cymhleth.Mae \u003cem\u003eMeddwl Creadigol mewn Ysgolion\u003c\/em\u003e wedi cael i gefnogi gan y \u003cem\u003eMercers Company, Creativity, Culture and Education \u003c\/em\u003ea'r\u003cem\u003eArts Council of Wales.\u003c\/em\u003eAddas i arweinwyr ysgolion a gwneuthurwyr polisi sy'n gweld meddwl creadigol fel pwrpas craidd o fewn addysg.\u003cstrong\u003eYn gynnwys: \u003c\/strong\u003eRhagair gan Andreas SchleicherRhagair gan Professor Dame Alison PeacockRhagymadroddCydnabyddiaethauCyflwyniadRhan 1: RhybuddRhan 2: Chwarae'r Gem o DdysguAdnoddau\u003cbr\u003e\u003cbr\u003e\u003cb\u003eAuthor:\u003c\/b\u003e Ellen Spencer,Bill Lucas,Louise Stoll\u003cbr\u003e\u003cb\u003eISBN-10:\u003c\/b\u003e 1785837060\u003cbr\u003e\u003cb\u003eISBN-13:\u003c\/b\u003e 9781785837067\u003cbr\u003e\u003cb\u003ePublisher:\u003c\/b\u003e Crown House Publishing\u003cbr\u003e\u003cb\u003eLanguage:\u003c\/b\u003e English\u003cbr\u003e\u003cb\u003ePublished:\u003c\/b\u003e 09\/06\/2024\u003cbr\u003e\u003cb\u003ePages:\u003c\/b\u003e 176\u003cbr\u003e\u003cb\u003eFormat:\u003c\/b\u003e Paperback\u003cbr\u003e\u003cb\u003eWeight:\u003c\/b\u003e 1.41lbs","brand":"Ellen Spencer","offers":[{"title":"Paperback","offer_id":49097225666815,"sku":"9781785837067","price":22.95,"currency_code":"USD","in_stock":false}],"url":"https:\/\/www.whiterainbookhouse.com\/products\/meddwl-creadigol-mewn-ysgolion-ellen-spencer-9781785837067","provider":"WR Book House","version":"1.0","type":"link"}